P-04-413 : Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghwm Cynon

Geiriad y ddeiseb
Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adfer gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Cynon, drwy gwblhau canolfan eni Tair Afon, fel y’i cynlluniwyd yn wreiddiol yn Ysbyty Cwm Cynon.

Gwybodaeth ategol:
Cafodd Ysbyty Cwm Cynon ei gynllunio gyda lle i ganolfan eni dan arweiniad bydwragedd. Er bod y lle ar gael yn yr ysbyty a bod llawer o’r gwaith wedi’i gwblhau, gwnaed y penderfyniad i beidio â chael y ganolfan eni.  O ganlyniad i hyn, rhaid i fenywod Cwm Cynon deithio i Ysbyty’r Tywysog Siarl ym  Merthyr Tudful neu ddewis geni eu plant gartref. Mae tynnu’r gwasanaethau hyn oddi ar bobl Cwm Cynon yn annerbyniol.

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor:  2 Hydref 2012

Nifer y llofnodion:406